Robert De Niro
Actor, cyfarwyddwr, a chynhyrchydd ffilm o'r Unol Daleithiau yw Robert Mario De Niro, Jr. (ganwyd 17 Awst 1943). Ystryid gan nifer fel un o'r actorion gorau a mwyaf enigmatig erioed.Fe nodir am ei actio modd a phortreadau o gymeriadau blinderus a chythryblus – yn ogystal â giangsteriaid – ac am ei gydweithrediad hir gyda'r cyfarwyddwr Martin Scorsese. Ymhlith ei rannau enwocaf yw'r Vito Corleone ifanc yn ''The Godfather Part II''; Travis Bickle yn ''Taxi Driver''; Jake LaMotta yn ''Raging Bull''; Jimmy Conway yn ''Goodfellas''; Al Capone yn ''The Untouchables''; Noodles yn ''Once Upon a Time in America''; Michael Vronsky yn ''The Deer Hunter''; ac yn ddiweddarach fel Jack Byrnes yn ''Meet the Parents''. Enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Arweiniol yn 1980 am ei ran yn ''Raging Bull'' a Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau mewn Rhan Gefnogol yn 1974 am ei ran yn ''The Godfather Part II''. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3