Miles Davis
Trwmpedwr jazz o'r Unol Daleithiau oedd Miles Davis (26 Mai 1926 – 28 Medi 1991). Roedd yn ffigwr ganolog mewn nifer o'r symudiadau pwysicaf mewn Jazz yn ystod ei fywyd, ac ef yw un o ffigyrau pwysicaf y genre yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yn ogystal â bod yn arloeswr cerddorol a gyfranodd yn sylweddol drwy ei gerddoriaeth ei hun, roedd Davis yn dda iawn ar ganfod cerddorion ifanc, talentog i fod yn rhan o'i fandiau. Drwy gerddoriaeth Miles Davis lansiwyd gyrfaoedd dwsinau o enwogion eraill Jazz, gyda rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus yn eu plith yn cynnwys John Coltrane, Bill Evans, Herbie Hancock, Wayne Shorter, Chick Corea, John McLaughlin, Keith Jarrett, John Scofield a Kenny Garrett. Darparwyd gan Wikipedia
1
Awduron Eraill:
“...Davis, Miles, 1926-1991...”
Llyfr