Tom Cruise

Mae Tom Cruise (ganed Thomas Cruise Mapother IV; 3 Gorffennaf 1962) yn actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd. Yn ôl y cylchgrawn ''Forbes,'' ef yw'r seren enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd.

Dechreuodd ei yrfa actio'n 19 mlwydd oed gyda'r ffilm ''Endless Love'' yn 1981. Ar ôl rolau cefnogol yn ''Taps'' (1981) a ''The Outsiders'' (1983), cafodd ei brif rôl gyntaf yn y comedi rhamantaidd ''Risky Business'' a ryddhawyd ym mis Awst 1983.

Daeth i amlygrwydd ar ôl serennu fel Pete "Maverick" Mitchell yn y ffilm ddrama acsiwn ''Top Gun'' (1986). Ers 1996, fe'i adnabyddir ar gyfer ei rôl fel Ethan Hunt yn y ffilmiau ''Mission: Impossible'', a'r ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres yw ''Mission: Impossible - Fallout'' a ryddhawyd yn 2018.

Ers 1990, mae Cruise wedi bod yn gysylltiedig â'r corff o gredoau ac ymarferion crefyddol Seientoleg. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Cruise, Tom, 1962-', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 2009
Awduron Eraill: ...Cruise, Tom, 1962-...
Meddalwedd eLyfr
2
Cyhoeddwyd 2010
Awduron Eraill: ...Cruise, Tom, 1962-...
Meddalwedd eLyfr
3
Cyhoeddwyd 2008
Awduron Eraill: ...Cruise, Tom, 1962-...
Meddalwedd eLyfr