Jennifer Connelly
Actores o'r Unol Daleithiau yw Jennifer Connelly (ganed 12 Rhagfyr 1970).Mae hi'n adnabyddus am ei gyrfa actio amrywiol, gan gynnwys gweithiau nodedig fel ''Once Upon a Time in America'', ''Labyrinth'', ac ''A Beautiful Mind.'' Enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau yn ''A Beautiful Mind''. Fe ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau fel ''Requiem for a Dream'', ''Hulk'', a ''Blood Diamond''. Yn ogystal â'i gyrfa ffilm, ymddangosodd Connelly mewn cyfresi teledu fel ''Snowpiercer'' a ''Dark Matter''. Y tu hwnt i actio, cafodd ei henwi'n Lysgennad Amnesty Rhyngwladol a mae wedi bod yn wyneb brandiau ffasiwn mawr fel Balenciaga a Louis Vuitton. Yn 2012, daeth hi'n wyneb byd-eang cyntaf Cwmni Shiseido. Mae cylchgronau fel ''Time'' a ''Vanity Fair'' wedi ei chydnabod fel un o ferched harddaf y byd.
Ganwyd hi yn Cairo, Efrog Newydd yn 1970. Roedd hi'n blentyn i Gerard Karl Connelly. Priododd â Paul Bettany ac mae ganddi 2 o blant. Darparwyd gan Wikipedia
1
2