Georges Clemenceau

Gwleidydd radicalaidd o Ffrainc oedd Georges Benjamin Clemenceau (28 Medi 184124 Tachwedd 1929), a anwyd yn Mouilleron-en-Pareds, Ffrainc.

Roedd yn ''député'' yn y cynulliad o 1875 ymlaen ac yn arweinydd y Chwith radicalaidd. Roedd Clemenceau yn areithydd penigamp ac yn enwog am ei huodledd darbwyllol; cafodd ei lysenwi ''le Tombeur de ministères'' ("Dymchwelwr gweinidogion") ac, yn ddiweddarach, ''le Tigre'' ("y Teigr").

Roedd yn gryf o blaid y radicalwr Dreyfus (1859-1935) a ymgyrchai dros hawliau dynol. Gwasanaethodd fel Arlywydd y Cyngor (Président du Conseil) o 1906 i 1909, pan dorrodd oddi wrth y sosialwyr.

250px|bawd|chwith|Clemenceau (ail o'r dde) gyda [[David Lloyd George|Lloyd George, Signor Orlando a Woodrow Wilson yn Versailles]]Dychwelodd i rym fel prif weinidog yn 1917 ac ymroddodd yn llwyr i'r Rhyfel Fawr gan ennill cryn boblogrwydd iddo'i hun mewn canlyniad. Cymerodd ran yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel ac arwyddodd Cytundeb Versailles. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Clemenceau, Georges 1841-1929', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Trarieux, Gabriel 1870-1940
Cyhoeddwyd 2000
Awduron Eraill: ...Clemenceau, Georges 1841-1929...
Llyfr