Michael Caine

| dateformat = dmy}}

Actor ac awdur o Lundain, Lloegr yw Syr Maurice Joseph Micklewhite, Jr. (ganwyd 14 Mawrth 1933), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw llwyfan Michael Caine. Mae'n adnabyddus am ei acen Cocni cryf ac mae wedi serennu mewn 115 neu ragor o ffilmiau. Ystyrir ef fel un o brif actorion Lloegr.

Daeth i'r amlwg yn y 1960au gyda ffilmiau megis: ''Zulu'' (1964), ''The Ipcress File'' (1965), ''Alfie'' (1966) (cynigiwyd ei enw am Gwobrau'r Academi), ''The Italian Job'' (1969), a ''Battle of Britain'' (1969). Yn y 1970au serenodd yn ''Get Carter'' (1971), ''Sleuth'' (1972), ''The Man Who Would Be King'' (1975), a ''A Bridge Too Far'' (1978). Yn y 1980au, fodd bynnag, y cafodd y canmoliaeth mwyaf a hynny gydag ''Educating Rita'' (1983) pan dderbyniodd Wobr BAFTA am yr actor gorau mewn rol blaenllaw a'r Golden Globe am yr Actor Gorau. Ym 1986 derbyniodd Wobr Academi am Actor Cynorthwyol am ei rôl yn ''Hannah and Her Sisters''.

Yn 2022 bu'n ffilmio ''The Great Escaper'' gyda Glenda Jackson. Rhyddhawyd y ffilm ar 6 Hydref 2023 a cadarnhaodd ar 13 Hydref y byddai yn ymddeol o actio, yn 90 mlwydd oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Caine, Michael, 1933-', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Awduron Eraill: ...Caine, Michael, 1933-...
Llyfr
2
Cyhoeddwyd 2010
Awduron Eraill: ...Caine, Michael, 1933-...
Meddalwedd eLyfr