Edmund Burke
Gwleidydd ac athronydd o Iwerddon a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Lloegr oedd Edmund Burke (12 Ionawr 1729 - 9 Gorffennaf 1797). Bu fyw trwy'r Chwyldro Ffrengig a ddaeth yn gonglfaen i lawer o'i syniadau athronyddol gwleidyddol. Nid dim ond meddylwyr Rhyddfrydol/chwyldroadol a ddylanwadwyd gan Ffrainc, ond fe ddylanwadwyd ar feddylwyr Ceidwadol fel Burke i ysgrifennu hefyd. Roedd Burke yn dod o gefndir crefyddol yn Nulyn; ei fwriad cyntaf oedd dilyn gyrfa yn y gyfraith yn Llundain, ond fe'u tynnwyd i mewn i wleidyddiaeth. Datblygodd enw i'w hun fel rebel y drefn Brydeinig. Cafodd Burke brofiadau gwleidyddol o dan lywodraeth Rockingham. Darparwyd gan Wikipedia
1