Peter Brook
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd theatr a chyfarwyddwr ffilm o Sais oedd Peter Stephen Paul Brook (21 Mawrth 1925 – 2 Gorffennaf 2022) a fu'n nodedig am lwyfannu dramâu William Shakespeare yn ogystal â nifer o weithiau'r ''avant-garde''.Ganed ef yn Chiswick, Llundain. Gwyddonwyr Iddewig o Latfia o'r enw Bryk oedd ei rieni; alltudiwyd ei dad o Ymerodraeth Rwsia ym 1914 am iddo arddel taliadau chwyldroadol. Mynychodd Peter sawl ysgol, gan gynnwys yr ysgolion bonedd Westminster a Gresham, cyn iddo gael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen ym 1942.
Cyfarwyddodd Shakespeare yn gyntaf—y ddrama hanes ''King John''—yn ystod ei dymor gyda'r Birmingham Repertory Theatre ym 1945, ac wedi hynny aeth i fan geni'r dramodydd, Stratford-upon-Avon, yn 21 oed. Yn y 1940au, efe a gyflwynodd dramâu ''avant-garde'' y Ffrancod Jean Cocteau a Jean-Paul Sartre i Loegr. Cyfarwyddodd sawl opera, gan gynnwys ''Salome'' gan Richard Strauss, i'r Tŷ Opera Brenhinol ym 1948–9. Cyfarwyddodd nifer rhagor o ddramâu Shakespeare, gan gynnwys ''Measure for Measure'' (1950), ''The Winter's Tale'' (1951), ''Titus Andronicus'' (1955), ''Hamlet'' (1955), ''The Tempest'' (1957), a ''King Lear'' (1962). Yn niwedd y 1950au daeth yn gyfarwydd â ffasiynau pryfoclyd y Cyfandir, yn enwedig y ffurf ''Théâtre de la Cruauté'' a arloeswyd gan Antonin Artaud, ac aeth Brook ati i lwyfannu gweithiau o'r fath, gan gynnwys ''The Screens'' gan Jean Genet a ''Marat/Sade'' gan Peter Weiss, ill dau ym 1964. Brook a wnaeth sgriptio a chyfarwyddo'r addasiad ffilm ym 1963 o'r nofel ''Lord of the Flies'' gan William Golding. Ym 1968 cyhoeddodd Brook ei lyfr enwocaf, ''The Empty Space'', yn gyflwyniad o'i syniadau am myd y theatr.
Symudodd i Baris, Ffrainc, ym 1970, ac yno sefydlodd y Ganolfan Ryngwladol er Ymchwil Theatr, mewn cydweithrediad â'r Théâtre des Bouffes du Nord. Wedi hynny, perfformiwyd y mwyafrif o'i gynyrchiadau ym Mharis, gan gynnwys ''Kaspar'' gan Peter Handke (1972), ''Timon of Athens'' (1974) ac ''Antony and Cleopatra'' (1978) gan Shakespeare, ac addasiad o'r ''Mahabharata'' a barai am naw awr (1985). Ysgrifennodd ragor o lyfrau am ei brofiadau a'i syniadau artistig, gan gynnwys ''The Shifting Point'' (1987), ''The Open Door'' (1993), a'r hunangofiant ''Threads of Time'' (1998). Derbyniodd wobr y Praemium Imperiale am theatr/ffilm ym 1997, a fe'i wnaed yn Gydymaith Anrhydedd ym 1998. Bu farw Peter Brook ym Mharis yn 97 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
2