Karen Blixen
| dateformat = dmy}}Awdures o Ddenmarc oedd y farwnes Karen Christenze von Blixen-Finecke neu fel arfer, Karen Blixen, (17 Ebrill 1885 - 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Ysgrifennai yn y Ddaneg a'r Saesneg; defnyddiai'r enw-awdur 'Isak Dinesen' ar lyfrau a gyhoeddwyd yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith, ac ar adegau defnyddiai 'Osceola' a 'Pierre Andrézel'.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''Out of Africa'' sy'n fywgraffiad o'r cyfnod pan roedd yn byw yn Cenia, a ''Babette's Feast''; troswyd y ddau lyfr ar gyfer y sgrin mawr. Derbyniodd y ddwy ffilm, hefyd Wobr yr Academi. Yn Denmarc mae'n nodedig am ei chyfrol 'Saith Chwedl Gothig' (''Syv Fantastiske Fortællinger''; 1934).
Ystyriwyd Blixen sawl tro am Wobr Lenyddol Nobel. Darparwyd gan Wikipedia
1