Pietro Bembo

Beirniad, ysgolhaig, a bardd Eidalaidd oedd Pietro Bembo (20 Mai 147018 Ionawr 1547) a hefyd yn gardinal, un o Farchogion yr Ysbyty, ac un o ffigurau blaenllaw y Dadeni Dysg. Fel meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd, Bembo oedd llenor blaenaf yr Eidal yn y 16g ac fe ddalai'r ffyniant llenyddol a sbardunwyd gan Dante, Petrarch, a Boccaccio yn y cyfnod cynt. Yn anad dim, beirniad chwaeth a safonwr y llên genedlaethol ydoedd, a thrwy ei ddylanwad llewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop. Câi barddoniaeth Bembo ei hanwybyddu gan y mwyafrif o feirniaid diweddarach. Serch hynny, roedd yn un o lenorion dyneiddiol a llyswyr dysgedig amlycaf ei oes ac fe gafodd effaith barhaol ar ddatblygiad yr iaith Eidaleg. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Bembo, Pietro, 1470-1547', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Bembo, Pietro, 1470-1547
Cyhoeddwyd 1511
Awduron Eraill: ...Bembo, Pietro, 1470-1547...
Πρόσβαση στο ψηφιακό αρχείο
Llyfr