Athena

200px|bawd|Cerflun o Athena Athena, neu Pallas Athena (Lladin: ''Minerva''), oedd duwies rhyfel a doethineb ym mytholeg y Groegiaid a nawdd-dduwies dinas Athen.

Cafodd ei geni o ben Zeus yn llawn arfog ac yn dwyn gwaywffon ''javelin'' yn ei llaw. Hi oedd hoff blentyn Zeus.

Yn ystod Rhyfel Caerdroea rhoddai Athena gymorth i'r Groegiaid yn erbyn gwŷr Caerdroea. Rhoddodd gymorth yn ogystal i'r arwr Heracles yn ei lafuroedd a thywysodd Perseus i wlad y Gorgoniaid. Diolch i nawdd ac amddiffyn y dduwies y cyrhaeddodd Odysseus ei gartref yn ddiogel, yn ôl ''Odysseia'' Homeros.

Roedd Athena yn dduwies wyryfol ac yn ddiwyd iawn. Roedd hi'n medru bod yn genfigennus, fel pan gollodd ornest yn erbyn Arachne o Lydia. Yn amser heddwch byddai'n troi ei nawdd at y celfyddydau a diwydiant, yn arbennig gwaith domestig.

Enwir dinas Athen ar ei hôl hi; roedd y Parthenon yn gysegredig iddi fel duwies y ddinas. Fe'i huniaethir â'r dduwies Rufeinig Minerva. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Athena', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Daudet, Alphonse, 1840-1897
Cyhoeddwyd 1980
Awduron Eraill: ...Athena...
Llyfr