Alan Arkin

| dateformat = dmy}} Actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd oedd Alan Wolf Arkin (26 Mawrth 193429 Mehefin 2023). Enillodd Gwobr yr Academi, Gwobr BAFTA, Gwobr Golden Globe a Gwobr Tony yn ystod ei yrfa. Roedd Arkin yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Yossarian yn y ffilm Mike Nichols ''Catch-22''.

Cafodd Arkin ei eni yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i David I. Arkin, peintiwr ac awdur, a'i wraig, yr athrawes Beatrice (g. Wortis). Cafodd ei fagu mewn teulu Iddewig. Symudodd y teulu i Los Angeles pan oedd Alan yn 11 oed. Yn ystod y 1950au, cyhuddwyd rhieni Arkin o fod yn Gomiwnyddion, a chafodd ei dad ei ddiswyddo.

Ym 1968, bu’n serennu fel yr Arolygydd Jacques Clouseau yn nhrydydd rhandaliad masnachfraint ''The Pink Panther'', o’r enw ''Inspector Clouseau''. Yr un flwyddyn, derbyniodd enwebiadau ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Drama Motion Picture am ei rôl yn ''The Heart Is a Lonely Hunter''.

Bu Arkin yn briod deirgwaith. Roedd ganddo ef a Jeremy Yaffe (p. 1955-1961) ddau fab: yr actorion Adam Arkin (g. 1956) a Matthew Arkin (g. 1960). Priododd Barbara Dana ym 1964; ymddangosodd Dana gydag ef mewn rhannau o ''Sesame Street'' yn y 1970au. Ym 1967, bu iddynt fab, Anthony (Tony) Dana Arkin. Ym 1996, ar ol ei ysgariad priododd Arkin y seicotherapydd Suzanne Newlander.

Bu farw Arkin yn ei gartref yn San Marcos, California, yn 89 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Arkin, Alan', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
1
Cyhoeddwyd 2008
Awduron Eraill: ...Arkin, Alan...
Meddalwedd eLyfr