Svetlana Alexievich

Newyddiadurwraig a llenores ffeithiol o Felarws yn yr ieithoedd Belarwseg a Rwseg yw Svetlana Alexandrovna Alexievich (ganwyd 31 Mai 1948). Traddodai ei rhyddiaith newyddiadurol drychinebau, trobwyntiau a thranc yr Undeb Sofietaidd, a nodir y cronicladau hyn gan leisiau a phrofiadau'r werin, yn enwedig merched. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 2015 am "ei hysgrifau amrysain, cofgolofn i ddioddefaint a dewrder ein hoes".

Ganwyd yn nhref Stanislav, Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin, yn ferch i filwr Belarwsiaidd a mam Wcreinaidd. Wedi i'w dad gael ei ryddháu o'r Fyddin Goch, symudodd y teulu i bentref yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belorwsia a gweithiodd y ddau riant fel athrawon. Gadawodd Svetlana'r ysgol i weithio'n ohebydd ar gyfer papur newydd lleol Narovl. Enillodd ei gradd yn newyddiaduraeth o Brifysgol Minsk ym 1972. Fe'i hanfonwyd i bapur newydd lleol Brest, ger y ffin rhwng Belarws a Gwlad Pwyl. Gweithiodd hefyd fel athrawes a golygydd. Yn hwyrach dychwelodd hi i Minsk a gweithiodd i'r papur newydd ''Sel'skaja Gazeta''. Trwy gydol ei gyrfa, ennai dicter am iddi herio'r hanes swyddogol a gwrthwynebu unbennaeth ac awdurdodyddiaeth. Cyhuddai o farnau'n groes i'r awdurdodau o ganlyniad i "heddychaeth a naturoliaeth" ei gwaith. Gwrthododd i ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol, a chafodd ei llyfr cyntaf ei ddinistrio ar orchymyn y Pwyllgor Canolog. Bu'n rhaid iddi adael Belarws yn 2000 gan iddi feirniadu llywodraeth yr Arlywydd Alexander Lukashenko. Symudodd i Baris, Göteborg, a Berlin cyn iddi allu dychwelyd i Minsk yn 2011.

Yn ogystal â'i gyrfa newyddiadurol hir, ysgrifennai Alexievich cronicladau a straeon byrion ar sail ei gohebiaeth a chyfweliadau. Ymhlith pynciau ei gwaith mae trychineb Chernobyl, y rhyfel Sofietaidd yn Affganistan, a chwymp yr Undeb Sofietaidd. Mae hi'n hefyd awdures tair drama a sgriptiau ar gyfer 21 o ffilmiau dogfen. Cyhoeddid pedair cyfrol yn ei chylch "Lleisiau Iwtopia", sy'n traddodi hanes yr Undeb Sofietaidd drwy lygad yr unigolyn: ''Nid Wyneb Fenyw sydd i Ryfel'' (1985), straeon merched Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd; ''Bois Sinc'' (1991), adroddiadau'r milwyr yn Affganistan a'u teuluoedd gartref; ''Gweddi Chernobyl'' (1997), hanes llafar y drychineb niwclear honno; ac ''Amser Ail-law'' (2013), marwnad i'r Undeb Sofietaidd sy'n dilyn hynt ei gwymp ac yn synio dyfodol ei weddillion.

Newyddiadurwraig yw swydd Alexievich, ond rhyddiaith ffeithiol yw ffurf ei llyfrau s'n rhywfaint mwy na'r ohebiaeth draddodiadol. Arddull idiosyncratig sydd i'w gwaith, a ddylanwadir yn gryf gan ei chydwladwr Ales Adamovich a ddatblygodd genre'r "nofel gyfunol", "nofel-oratorio" neu'r "corws epig". Gosoda'r llenores adroddiadau'r tystion mewn brith ysgrifenedig: "côr o leisiau unigol a gludwaith o fanylion pob dydd", yng ngeiriau Alexievich. Cynnyrch y dull hwn yw croniclad sydd hefyd yn gampwaith llenyddol, adroddiad cymdeithasegol, a phregeth. Er bod ambell o'i "nofelau dogfen" yn meddiannu'r ffin rhwng ffaith a ffuglen, honna Alexievich taw efelychiad o draddodiad llafar Rwsia yw ei newyddiaduraeth lenyddol. Cymharir ei gwaith hefyd i lyfrau ffeithiol traethiadol sy'n benthyca dyfeisiadau'r nofel, megis llyfryddiaeth Truman Capote, Norman Mailer, a Joan Didion. Ansawdd delynegol sydd i'w rhyddiaith yn ôl y beirniaid, ac arddull wreiddiol sy'n cyfuno "craffter gwleidyddol a gweledigaeth drasig". Wrth ddatgan taw Alexievich oedd enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ar gyfer y flwyddyn 2015, dywedodd Sara Danius, ysgrifennydd Academi Sweden: "Mae hi'n rhagori ar fformat newyddiaduraeth ac mae hi wedi datblygu genre llenyddol newydd sy’n dwyn ei harwyddnod." Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Alexievich, Svetlana, 1948-', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Alexievich, Svetlana, 1948-
Cyhoeddwyd 2015
Awduron Eraill: ...Alexievich, Svetlana, 1948-...
Llyfr
2
gan Alexievich, Svetlana, 1948-
Cyhoeddwyd 2002
Awduron Eraill: ...Alexievich, Svetlana, 1948-...
Llyfr
3
gan Alexievich, Svetlana, 1948-
Cyhoeddwyd 2017
Awduron Eraill: ...Alexievich, Svetlana, 1948-...
Llyfr
4
gan Alexievich, Svetlana, 1948-
Cyhoeddwyd 2016
Awduron Eraill: ...Alexievich, Svetlana, 1948-...
Llyfr