Josh Adams
}} Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru sy'n chwarae ar yr asgell i glwb Worcester Warriors yn Lloegr yw Josh Adams (ganwyd 12 Ebrill 1995).Magwyd Adams yn yr Hendy, ger Llanelli. Cafodd Adams ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun y Strade a gyda Llanelli y dechreuodd ei yrfa rygbi, gan chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Pontypridd yn 2013. Aeth yn ei flaen i chwarae cyfanswm o 30 o gemau o'r clwb a sgorio 9 o geisiau. Chwaraeodd ei unig gêm i'r Sgarlets pan trechwyd hwy gan ranbarth Gleision Caerdydd yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2014. Chwaraeodd hefyd i dîm Dan-20 Cymru.
Ym Mai 2014, cafodd ei gyhoeddi y byddai Adams yn symud i Gaerwrangon at glwb y Warriors. Cafodd ei roi ar fenthyg i glwb Cinderford hyd at ddiwedd tymor 2015–16. Darparwyd gan Wikipedia
1
Llyfr