Walt Disney
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd oedd Walter Elias Disney (5 Rhagfyr 1901 - 15 Rhagfyr 1966).Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn.
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng animeiddio ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys Mickey Mouse. Ei enw ef sydd ar barciau Disneyland a Walt Disney World Resort yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc a Tsieina. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy. Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar 15 Rhagfyr 1966, rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, Fflorida. Darparwyd gan Wikipedia
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40